
NEWYDD YN 2008!
Llyn Teulu
Rydym newydd orffen creu llyn newydd ar gyfer
teuluoedd a dechreuwyr.
Bydd yn agor yn hwyr ym mis Mai 2008
- lle arbennig i deuluoedd neu pobl sydd eisiau
dechrau pysgota.
Ym Mhysgodfa Eisteddfa cewch fwynhau diwrnod
hamddenol o bysgota bras cymysg neu wynebu her y carp
mwy mewn awyrgylch braf gyda golygfeydd o bob tu.
NEWYDDION Mae'n rhaid cofrestru ymlaen llaw trwy ffonio 01766 523425. |
Ar gyfer y pysgotwr hela mae llyn brithyll sy’n llyn plu ac
abwyd gydag un hanner wedi ei neilltuo ar gyfer plu yn unig.
Os hoffech brofi amrywiaeth a sbort dda yna mae’r llyn pleser
gyda 28 o safleoedd gyda digon o le rhwng bob un a chyrion
sydd wedi tyfu’n dda yn cynnig cyfle i bysgotwyr polyn a gwialen sicrhau dalfa gymysg dda.
Os yw’n well gennych y carp mwy yna mae’r llyn carp yn cynnig sbort dda o saith safle. Ar hyn o bryd mae record y llyn yn 25.5 pwys.
Darllenwch fwy am ein llynnoedd drwy ddilyn y cysylltau ar y chwith.
Rydym yn falch o’n hawyrgylch cyfeillgar a chroesawgar. Cynhaliwyd yma nifer o ddyddiau Dewch i Roi Cynnig mewn cydweithrediad ag Asiantaeth yr Amgylchedd. Cofiwch edrych ar yr adran newyddion am fanylion digwyddiadau yn y dyfodol. Rydym yn croesawu gornestau ar y llyn pleser, ac yn cynnig gostyngiadau i grwpiau o 8 neu fwy. 
Mae’r caban ar y safle yn stocio abwyd ac offer (bachau, arnofion ayyb) sylfaenol. Mae’r siop offer agosaf yng Nghricieth, dwy filltir oddi yma.
Rydym ar agor drwy’r flwyddyn o 8.00 y bore hyd y gwyll, ond mae’n well ffonio gyntaf yn ystod misoedd y gaeaf rhag ofn ein bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw.
Mae offer ar gael i’w logi (fe’ch cynghorir i’w archebu ymlaen llaw), ac mae gennym ddigon o le i barcio ceir. Cyfleusterau toiled.
Ambell dro caniateir pysgota 24 awr drwy drefnu ymlaen llaw.
Mae maes carafannau a pebyll teulu ardderchog gerllaw, neu bythynnod gwyliau ar y fferm. Defnyddiwch ein tudalen Linciau i gael mwy o wybodaeth.
Eisteddfa Fisheries - Polisi Preifatrwydd - 01766 523425
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()