Rhestr Bostio
Enw:
eBost:  

Mae stoc dda o frithyll seithliw rhwng 1 a 3 phwys yn y llyn.  Mae’r llyn yn ymestyn i acer mewn maint, gydag 20 o safleoedd gyda Boy with troutdigon o le rhwng bob un.  Caniateir pysgota plu ac abwyd, ond cyfyngir pysgota gydag abwyd i un ochr o’r llyn.

Mae’r llyn yn bedair blwydd oed, gydag dyfnder o wyth troedfedd ar gyfartaledd; ar ei fan dyfnaf mae’n bymtheg troedfedd.

Mae gennym nifer cyfyngedig o wialenni plu ac abwyd i’w llogi, ond fe’ch cynghorir i archebu offer i’w logi ymlaen llaw; rydym hefyd yn cadw stoc o blu, abwyd ac offer arall ar werth yn y caban.

Rhaid prynu tocynnau o’r caban cyn pysgota neu, os nad oes unrhyw un ar y safle, ffoniwch 07759 871327 neu 07753 818414.

Prisiau tocynnau o'r 1af Mawrth 2008:
                                    £11.00 3 pysgodyn
                                    £16.00 5 pysgodyn
                                    £18.00 oedolyn a phlentyn (6 pysgodyn)
                                    £10.00 sbort (plu yn unig)
                                    £8.00 sbort (plu yn unig) ar ôl 5.00pm.

Dylech adael i’r caban wybod maint eich dalfa cyn ymadael.

Llogi offer £2.00 am wialen a rhwyd.  Codir tâl am fachau, arnofion a phlu a gollir oddi ar offer ar log.

Trout lakeRheolau’r llyn brithyll
Dim taflu abwyd rhydd i'r dwr, troelli, abwyd pwer na pheledi brithyll.
Os ydych yn pysgota ar docyn lladd rhaid lladd POB pysgodyn.
Pysgota gydag un wialen ar y tro.
Os ceir hyd i unrhyw unigolyn gyda mwy nag uchafswm ei ddalfa codir dwbl graddfa’r bunt a gofynnir iddo adael.
Ar docynnau sbort, bachau heb adfachau’n unig.
NI CHANIATEIR BOCSYS O'R UN MATH AR Y LLYN (Bocsys offer, picnic ayyb).
Bydd angen adrodd pob dalfa cyn gadael.

Cofiwch waredu abwyd heb ei ddefnyddio a sbwriel yn ofalus yn y biniau pwrpasol.

Parchwch eich cyd-bysgotwyr a mwynhewch eich diwrnod o bysgota gyda ni.

 

Eisteddfa Fisheries - Polisi Preifatrwydd - 01766 523425

English Version

Brithyll


blk
blk
blk
blkblk
blkblkblk