
Mae’r llyn hwn ychydig dros acer mewn maint ac mae’r dyfnder yn amrywio o 3' i 6', gyda lliw da. Cyflenwir y llyn gan ddwr ffynnon ac mae ganddo ddigon o nodweddion yn cynnwys tair ynys fechan. Mae tyfiant trwchus ar y glannau ac mae mannau o hesg a lili yn cynnig cryn her i’r pysgotwr carp .
Dim ond 7 o safleoedd gyda digon o le rhyngddynt sydd ar gael felly fe’ch cynghorir i archebu lle yn ystod misoedd yr haf. Mae’r 7 safle yn agos at y maes parcio, ond mae lle i bysgotwr gydag anableddau barcio ar lan y llyn, ynghyd â llwyfan pysgota mawr.
Yn y llyn mae stoc dda o garp cyffredin a charp gloyw sy’n pwyso rhwng 5 a 25 pwys. Ar gyfartaledd mae’r pysgod a ddelir yn 14 pwys. Saif record y llyn ar 25 pwys a hanner.
Dim ond pysgotwyr profiadol gaiff ganiatâd i bysgota’r llyn hwn, ac nid ydym yn llogi offer ar ei gyfer. Rhaid i bysgotwyr ddod â’u hoffer eu hunain, sy’n addas ar gyfer delio â physgod mawr.
Mae tocynnau ar gael o’r caban neu, os nad oes neb yn bresennol ar y safle, ffoniwch 07759 871327 neu 07753 818414.
Prisiau tocynnau:
Llyn Carp £10.00
£8.00 gyda’r nos ar ôl 5.00 pm.
Mae tocynnau 24 awr ar gael yn ôl doethineb y perchennog a rhaid eu harchebu ymlaen llaw – £17.00.
Rheolau’r Llyn Carp
Rhaid pysgota oddiwrth y glanfeydd.
Cewch ddefnyddio bachau heb adfachau, neu fachau adfachog micro.
Rhaid defnyddio matiau dadfachu priodol ar gyfer carp mawr.
Rhwydi glanio carp yn unig - o leiaf 30 modfedd.
Lein briodol ar gyfer o leiaf 12 pwys.
Dim plwm gosodedig.
Dim peledi brithyll, cnau, ffa na mwydod cochion.
Dwy wialen ar y mwyaf.
Rhaid dychwelyd pysgod i’r dwr ar unwaith wedi eu dal.
Rhaid trochi pob rhwyd a mat yn drwyadl yn y tanciau a ddarperir.
Dylech waredu unrhyw abwyd heb ei ddefnyddio a sbwriel yn y biniau pwrpasol.
Byddwch yn ofalus wrth drin y pysgod. Parchwch eich cyd-bysgotwyr a mwynhewch eich diwrnod o bysgota gyda ni.
Eisteddfa Fisheries - Polisi Preifatrwydd - 01766 523425
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()