Rhestr Bostio
Enw:
eBost:  

Y mwyaf o’r tri llyn pysgota bras, hwn oedd y cyntaf i ni ei sefydlu.  Mae’r llyn oddeutu dwy acer mewn maint gydag ynys a lleiniau o hesg a lili.  Er mai llyn wedi ei greu yw hwn mae’r cyrion wedi tyfu’n dda ac yn cynnig pysgota da.  Mae’n cynnal stoc dda gydag amrywiaeth o bysgod.

Carp; gloyw a chyffredin hyd at 14 pwys
Sgreten; gwyrdd ac aur hyd at 5 pwys
Twb y dail hyd at 4 bwys
Merfog hyd at 1½ pwys
Pysgodyn rhudd hyd at 1½ pwys
Rhufell hyd at 1 pwys .

Mae yma 28 safle gyda digon o le rhwng bob un, ac mae dyfnder y llyn yn amrywio o 4.6 i 6 troedfedd. 

Mae yma bysgota da ar y cyrion, neu yng nghysgod yr ynys.  Yr abwyd gorau i’w ddefnyddio yw cynrhon, peledi, India corn a chig.  Mae bara a bisgedi cwn ar yr wyneb yn gweithio’n dda ar noson braf o haf.

Tocynnau ar gael ar y boncen neu yn y caban.  Parcio ger y llyn i bysgotwyr gydag anableddau.  Ni chaniateir plant dan 12 oed heb oedolyn ar y Llyn Pleser.

Prisiau Llyn Pleser o 1af Mawrth 2011                   
£6.50 oedolyn
£5.50 iau/pensiynwyr
£5.50 oedolion wedi 5.00 y.h.
£5.00 iau/pensiynwyr wedi 5.00 y.h.
Gellir llogi y llyn ar gyfer gornestau.  Gostyngiadau i grwpiau o 6 neu fwy.

Llogi Offer                   
£2.50 gwialen a rhwyd lanio
Gellir llogi pob mathau o offer - holwch am y prisiau.                               
Sylwer: rhaid talu am unrhyw offer a dorrir neu a gollir.

Rheolau’r Llyn PleserPleasure Lake Picture of Fish
Mae'n rhaid pysgota oddiwrth un o'r glanfeydd pwrpasol.
Bachau heb adfachau’n unig (byddwn yn gwirio hyn).
Rhaid defnyddio rhwydi glanio.
Mwyafrif o ddwy wialen.
Dim plwm gosodedig.
Dim peledi brithyll na mwydod cochion.
Dim pysgod dros 4 pwys i’w cadw mewn rhwydi cadw.
Rhaid trochi pob rhwyd.
Ni chaniateir plant o dan 12 heb oedolyn ar y Llyn Pleser.
Nid ydym yn caniatau pobl ifanc sy'n iau nac 16 i ddod â gwesteion nad ydynt yn pysgota.

Dylech waredu unrhyw abwyd heb ei ddefnyddio a sbwriel yn y biniau pwrpasol.

Byddwch yn ofalus wrth drin y pysgod.  Parchwch bysgotwyr eraill a mwynhewch eich diwrnod o bysgota.

Eisteddfa Fisheries - Polisi Preifatrwydd - 01766 523425

English Version

Llyn Cwrs


blk
blk
blk
blkblkblk
blkblkblk

Facebook