
Gyda dyfnder o 4½ troedfedd, mae saith glanfa fawr, a bydd byrddau picnic a barbiciw ar gael. Mae'r llyn wedi ei leoli oddiwrth y llynnoedd eraill, yn ymyl y caban, ble mae cymorth wrth law os ydych yn newydd i bysgota.
Un pris sydd i bawb, sef dim ond £5.50 yr un (am ddim i blant 5 oed i lawr hefo oedolyn yn talu), sy'n cynnwys llogi offer a pot bach o abwyd.
Sylwer: rhaid talu am unrhyw offer a dorrir neu a gollir.
Mae'r rheolau yn syml:
Bachau heb adfachau'n unig.
Dylid trin y pysgod cyn lleied â phosib a'i dychwelyd i'r dwr yn syth.
Dylech waredu unrhyw abwyd heb ei ddefnyddio a sbwriel yn y biniau pwrpasol.
Parchwch bysgotwyr eraill.
Mwynhewch eich hunain!
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()