


Llyn Pysgota Plu
Ein llyn newydd ar gyfer pysgota brithyll gyda phlu. Mae’r llyn dros 2 acer mewn maint a hwn yw'r mwyaf o’r llynnoedd. Mae’r dyfnder yn amrywio o 5½ tr i 12 tr ac mae dwy ynys ynddo.
Ar agor ers mis Mai 09 byddwn yn sicrhau cyflenwad ddigonol o bysgod bob amser, brithyll yr afon, brithyll seithliw, gleision ac euraidd gyda phwysau yn cyrraedd ffigyrau dwbl.
Efallai byddwch yn lwcus ac yn dal un o’r pysod gyda tag. Rhaid talu £1 i fewn i’r pot er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth – os daliwch y pysgodyn tag yna fe enillwch gynnwys y pot!
Mae 17 man pysgota ar y llyn, yn cynnwys un pwrpasol ar gyfer yr anabl, gyda llecyn parcio gerllaw. Mae caban wrth ymyl y llyn gyda lle i chi wneud te a choffi.
Archebu eich lle ar y we rwan!
Prisiau Llyn Plu o Fawrth 2011
1 pysgodyn 2 awr £10.00
2 bysgodyn 4 awr £15.00
3 pysgodyn diwrnod £22.00
Oedolyn/Plentyn 2 pysgodyn 4 awr £20.00
Oedolyn/Plentyn 4 pysgodyn diwrnod £28.00
Sbort diwrnod £15.00
Sbort 4 awr £10.00
Oedolyn/Plentyn 4 awr sbort £15.00
Oedolyn/Plentyn diwrnod sbort £20.00
Mae gwersi ar geal cysylltwch a Trevor Jones
Ffon - 01286 880376
E-bost - trevortrour.nebo@btinternet.com
am fwy o wybodaeth.
RHEOLAU
RHAID dychwelyd pob brithyll yr afon a brithyll euraidd i'r dwr.
Caniateir bachau heb farb yn unig.
Rhaid defnyddio rhwydi glanio.
Rhaid i unrhyw un o dan 16 fod yng ngwmni oedolyn cyfrifol.
Gyda tocyn lladd mae'n RHAID lladd y pysgod cyntaf i'w dal hyd nes cyrhaeddir nifer eich tocyn.
Mae cymryd mwy o bysgod na ganiateir ar eich tocyn yn ladrata. Rydym yn erlyn lladron.
Tocyn sbort - dylid cadw'r pysgod yn y dwr i'r rhyddhau ble mae'n bosib.
Caniateir i bysgotwyr gyda tocyn i'r Llyn Plu bysgota'r ddau lyn.
RHAID adrodd pob dalfa yn y caban.
Rydym yn archwilio bagiau o bryd i'w gilydd.
Ni chaniateir wyau pryfed.
Ni chaniateir 'boobies'.
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()