Eisteddfa Fisheries
Logo Eisteddfa Fishery
Saesneg

 


Call us : 01766 522148

Siop

Rydym wedi gallu ehangu ein siop offer yn fawr mewn caban pren pwrpasol. Mae’r siop olau, braf yn ganolbwynt ar gyfer ein gweithgareddau pysgota.

Yma, gallwch brynu tocyn, llogi offer neu bori trwy'r eitemau amrywiol sydd ar werth. Mae gennym ddewis da o abwyd ar gyfer carp a physgod bras ac offer yn cynnwys gwialenni, riliau, rhwydi, matiau a bagiau yn ogystal ag offer darfod hanfodol. 

Rydym yn cadw cynrhon a phryfed genwair o fis Mawrth tan ddiwedd Hydref.

O ran pysgota plu, mae gennym ddewis da o blu, darnau blaen lein, pastynau, arnofwyr(floatants) a llawer mwy.  Mae'r siop hefyd yn gwerthu nifer o blu arbennig iawn, wedi eu clymu gan bysgotwr tim Rhyngwladol Cymru, Phil Wood.  Mae plu Phil i wedi'u arbrofi i geisio sicrhau mwy o bysgod yn cael eu glannio.  Maent wedi eu clymu i safon uchel, ar y bachau gorau bosib.

Gellir llogi offer ar gyfer pob llyn ond y Llyn Carp. Mae hyn yn cynnwys gwialenni wedi’u gosod, rhwydi glanio, matiau a rhwydi cadw.